Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan yr Adran Addysg a Sgiliau ac fe'i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1 

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi safbwynt teg a rhesymol am effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011.  Rwyf yn fodlon bod y manteision yn gwrthbwyso unrhyw gostau.

 

 

 

Leighton Andrews AC

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

1 Mehefin 2011


 Disgrifiad

 

1.    Mae'r rheoliadau drafft yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) y sefydlir ei swydd o dan adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae'r rheoliadau drafft yn gwneud darpariaeth ynghylch sefydlu panel dethol y bydd ei aelodau'n cyf-weld ag ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd ac yn gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynghylch y penodiad hwnnw. Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd ac ynghylch yr wybodaeth o'r Gymraeg, a'r hyfedredd ynddi, y bydd gofyn i'r Comisiynydd feddu arnynt.

 

Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol 

 

2.    Dim.

Y cefndir deddfwriaethol

 

3.    Mae adran 2 o'r Mesur yn darparu y bydd yna Gomisiynydd y Gymraeg a bod yn rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Comisiynydd.  Mae paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1 i'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i Brif Weinidog Cymru, wrth benodi'r Comisiynydd, gydymffurfio â'r rheoliadau penodi a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 7 o'r Atodlen honno. 

 

4.    Mae paragraff 7 o Atodlen 1 i'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ynghylch penodi'r Comisiynydd (y cyfeirir atynt yn y Mesur fel "rheoliadau penodi"). Mae paragraff 7(2) o Atodlen 1 i'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau ("panel dethol") sydd i gyf-weld ag ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd a gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad. Wrth benodi’r Comisiynydd mae’n rhaid i Brif Weinidog Cymru, yn unol â pharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1, roi sylw i argymhellion y panel dethol. Yn unol â pharagraffau 7(3) - (6) o Atodlen 1 i'r Mesur, caiff y rheoliadau penodi hefyd wneud darpariaeth ynghylch materion eraill sy'n gysylltiedig â'r penodiad gan gynnwys darpariaeth ynghylch yr egwyddorion i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd a darpariaeth ynghylch yr wybodaeth o'r Gymraeg, a'r hyfedredd ynddi, y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arnynt. Mae paragraff 7(7) o Atodlen 1 i'r Mesur yn darparu y caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i unrhyw berson, gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.   

 

5.    Fel y nodir yn adran 150(2)(l) o'r Mesur, mae'r rheoliadau hyn yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol drwy'r weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol.

 

 

Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Amcanion Polisi

 

6.    Mae'r rheoliadau hyn yn ofynnol er mwyn i Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r ymrwymiad a osodir arnynt yn y Mesur i wneud darpariaeth ynghylch penodi’r Comisiynydd, a bydd y rheoliadau hyn yn eu tro yn caniatáu i Brif Weinidog Cymru wneud penodiad. Heb y rheoliadau hyn ni ellir penodi’r Comisiynydd ac ni ellir gwireddu amcanion polisi’r Mesur.   

 

Effaith

 

7.    Mae’r rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, unwaith y bydd Prif Weinidog Cymru yn gofyn iddynt wneud hynny, i gynnull panel dethol. Mae’r rheoliadau yn nodi’n fras pwy fydd y categorïau o aelodau: sef person achrededig gan Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i weithredu fel asesydd penodi annibynnol; person sydd â phrofiad o hybu defnydd o’r Gymraeg a/neu iaith arall; aelod o staff Llywodraeth Cymru ac Aelod Cynulliad a enwebir gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd y categorïau hyn o aelodau eu dewis a’u nodi mewn deddfwriaeth i sicrhau bod y broses benodi yn un deg a thryloyw a bod cyfansoddiad y panel dethol yn briodol er mwyn cynnig safbwyntiau cytbwys a gwneud argymhellion. Bydd aelodaeth y panel dethol yn sicrhau bod ganddo gyfuniad o brofiad ac arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses penodiadau a maes gwaith y Comisiynydd. Bydd y panel dethol yn cynnig ei argymhellion i Brif Weinidog Cymru, a rhaid iddo ef roi sylw iddynt wrth benodi’r Comisiynydd. Yn ogystal, mae’r rheoliadau hyn yn sicrhau bod yn rhaid i Brif Weinidog Cymru, wrth wneud y penodiad, ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder, a chymesuredd, sy’n ystyriaethau creiddiol yn y broses penodiadau cyhoeddus a chan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o’r egwyddorion hynny yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Ceir darpariaeth yn y rheoliadau penodi hyn hefyd i sicrhau y gall y broses benodi fynd rhagddi os bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn gwrthod neu’n methu enwebu.

 

8.    Gwneir darpariaeth sy’n anghymhwyso personau sydd yn neu sydd wedi dal swydd Comisiynydd neu Ddirprwy Gomisiynydd rhag eistedd ar y panel dethol ar gyfer penodi Comisiynydd.. Mae hyn yn atgyfnerthu annibyniaeth a gwrthrychedd y panel.

 

Ymgynghori 

 

9.    Mae'r wybodaeth o dan y pennawd hwn wedi'i chynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn Rhan 2.


RHAN 2 - ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

 

Yr Opsiynau

 

Opsiwn 1: Gwneud Dim

10. Mae paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1 i'r Mesur yn nodi bod yn rhaid i Brif Weinidog Cymru, wrth benodi'r Comisiynydd, gydymffurfio â'r rheoliadau penodi. Mae paragraff 7(1) o Atodlen 1 i'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd.

 

11. Rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn cydymffurfio â'u dyletswydd, wneud rheoliadau penodi ac ni all y Comisiynydd gael ei benodi oni fydd rheoliadau penodi wedi'u gwneud.  O ganlyniad, nid yw 'gwneud dim' yn opsiwn dichonadwy.

 

Opsiwn 2: Gwneud y Ddeddfwriaeth

12. Mae gwneud y rheoliadau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyflawni’r ddyletswydd a osodir arnynt i wneud rheoliadau penodi. Bydd y rheoliadau hyn yn eu tro yn caniatáu i Brif Weinidog Cymru fodloni’r ddyletswydd gyfreithiol sydd arno i gydymffurfio â’r rheoliadau wrth benodi person i’r swydd. Bydd y rheoliadau hyn yn arwain at benodi'r Comisiynydd, sy’n rhan hanfodol o gyflawni amcanion polisi'r Mesur.

 

Costau a manteision

 

Opsiwn 1: Gwneud Dim

13. Ni fyddai unrhyw gostau na manteision o ganlyniad i beidio gwneud y ddeddfwriaeth gan na fyddai'n bosibl i Brif Weinidog Cymru benodi Comisiynydd.

 

14. Os na chaiff y Comisiynydd ei benodi, ni fydd yn bosibl rhoi'r Mesur ar waith.  Byddai hynny'n groes i ddisgwyliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r cyhoedd.

 

Opsiwn 2: Gwneud y Ddeddfwriaeth

 

Costau

15. Nid oes yna unrhyw oblygiadau o ran costau i fusnesau, y sector gwirfoddol, llywodraeth leol ac eraill o ganlyniad i'r rheoliadau hyn.

 

16. Y costau syn deillio o’r rheoliadau hyn yw'r rheini sy'n gysylltiedig â'r broses o benodi'r Comisiynydd. Amcangyfrifir mai cost hysbysebu'r swydd a defnyddio cwmni chwilio am swyddogion gweithredol i ganfod ymgeiswyr addas fydd oddeutu £30,000. Bydd y costau'n dod o gyllideb yr Adran Addysg a Sgiliau ar gyfer 2011-2012.

 

17. O dan y trefniadau cyfredol, mae costau cyflogau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dod o linell wariant yn y gyllideb (Budget Expenditure Line (BEL)) 6020 ar gyfer Bwrdd yr Iaith sydd â chyllideb refeniw o £13.858m ar gyfer 2011-12..Disgwylir i’r BEL hwn drosglwyddo o Brif Grŵp Gwariant (Main Expenditure Group (MEG))Treftadaeth i MEG Addysg a Sgiliau yn y Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2011-12.  Bydd y costau sy'n gysylltiedig â chyflogi'r Comisiynydd, unwaith y'i penodir, yn dod o'r un gyllideb.

 

18. Fel yr amcangyfrifwyd yn flaenorol yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i'r Mesur, mae'r costau staff sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Mesur oddeutu £200,000 ym mlwyddyn 1 (2011-12), sy'n dod o gyllidebau cyfredol Llywodraeth Cymru. Bydd cyfran fechan o'r costau staff hyn yn cael ei defnyddio i gyflawni'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau hyn, sef cynllunio a rheoli'r broses benodi ar gyfer y Comisiynydd.

 

Manteision

19. Bydd gwneud y ddeddfwriaeth yn sicrhau y gellir penodi'r Comisiynydd ac yn cyflawni'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodi.

 

Ymgynghori

20. Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr egwyddorion polisi na'r rheoliadau drafft gan na fyddant yn cael effaith uniongyrchol ar y sectorau cyhoeddus, preifat na gwirfoddol.

 

Asesu'r Gystadleuaeth

21. Nid yw asesu'r gystadleuaeth yn gymwys yn yr achos hwn gan na fydd y rheoliadau hyn yn effeithio ar fusnesau, elusennau na'r sector gwirfoddol.

 

Adolygu ar ôl gweithredu

22. Caiff y rheoliadau hyn eu hadolygu wedi i bob Comisiynydd gael ei benodi gyda'r nod o wneud unrhyw ddiwygiadau gofynnol cyn y penodiad nesaf.